Ar Lwybr Diarffordd, Lleoliadau Sanctaidd ar Ynys Môn

Two bikes rest at gate of Pabo Sant Church, during Off the Beaten Track, Sacred Spaces on Ynys Môn, Anglesey Guided Bike Tour.

🚴‍♀️ 20 milltir / 32 cilomedr
🌄 Tua 870′ / 265 medr
🥪 Cinio mewn caffi wedi ei gynnwys

Dewch i ganfod cefn gwlad Ynys Môn ar y daith feicio hamddenol hon, gyda morluniau godidog, lleoedd cysegredig hardd, blodau gwyllt ar hyd ochrau’r lonydd ac Eryri’n gefndir i’r cyfan.

Ein man cychwyn yw pentref a oedd unwaith dref farchnad fwyaf yr Ynys. Rydyn ni’n ymweld â rai o eglwysi gwledig lleiaf yr ynys, i lawr lonydd deiliog diarffordd.

Cynhwysir cinio Cymraeg go iawn.

Allwch chi weld wyneb y diafol yn wal yr eglwys? Darganfyddwch pam y cymerodd Brenin Prydeinig hynafol loches ar Ynys Môn, clywed sut y gwnaeth yr aelod gyntaf o Dŷ’r Arglwyddi i droi at Islam gefnogi ein heglwysi gwledig, yna plymio i’r 18fed ganrif trwy lygaid dyddiadurwr.

Mae’r ynys hudolus hon, cartref y derwyddon, wedi’i thrwytho mewn ysbrydolrwydd, hanes ac archeoleg ac mae taith diwrnod yn nwylo arbenigol Teithiau Beic Lôn Las yn brofiad na ddylid ei golli.

Dyma daith arbennig ar gyfer Experience Churches

Dyddiadau arfaethedig ar gyfer 2023 i’w gytuno gan yr Eglwysi.

Archebwch ar lein rwan