Canoldir Hanesyddol Ynys Môn

Visiting Llanfechell church on a guided bike tour with views of Eryri / Snowdonia

🚴‍♀️ 20 milltir / 32 cilomedr
🌄 Tua 870′ / 265 medr
🥪 Caffi ar gyfer cinio Ddydd Mercher ar gau Sadwrn

Cawn gipolwg ar rywfaint o hanes Ynys Môn ar y daith hon, gyda diolch i ddyddiaduron prin un sgweier o Fôn. Mae ei ddyddiadur yn rhoi cipolwg llygad-dyst o fywyd yng nghefn gwlad Môn yn y ddeunawfed ganrif. Rydym hefyd yn camu llawer pellach yn ôl mewn hanes Ynys Môn ymweld â rhai o’r eglwysi bychain sydd mor nodweddiadol o Fôn. Mae’r straeon a’r hanes sydd ynghlwm wrth yr eglwys gyntaf y byddwn yn ymweld â hi yn ein tywys cyn belled â mytholeg Geltaidd cyn-gristnogol.

Wrth seiclo ar hyd lonydd gwledig, cewch hefyd fwynhau golygfeydd bendigedig tuag at Eryri, a morluniau tug at Ynys Cybi.

Byddwn yn ymweld â nifer o eglwysi hynafol bychain, sydd mor nodweddiadol o’r ynys. Byddwn hefyd yn seiclo heibio i un o feini hirion mwyaf Ynys Môn hefyd. Mae’n un o ryw 40 maen hir rhyfeddol sy’n dal i sefyll ar yr ynys, ac fel nifer ohonynt, mae wedi ei henwi, yn wir mae dau enw arni, sef Maen Pres neu Carreg Lefn.

Chwedlau a chofnodion

Gadewch inni rannu chwedlau am y Brenin Pabo, ‘Post’ Prydain, ac am y diafol, sy’n didoli’r da a’r drwg ymhlith y gynulleidfa. Sgweier Llanfechell sy’n gyfrifol am drosglwyddo gwybodaeth am fywyd bob dydd cefn gwlad Ynys Môn y deunawfed ganrif drwy ei dyddiaduron, byddwn yn rhannu ei feddyliau a’i gymdeithas â chi.

Llannerchymedd yw man cychwyn a gorffen ein taith. Bellach yn bentref tawel, dyma oedd canolfan masnachol prysur yr Ynys ar un adeg.

Rydym yn cyfarfod yn hen orsaf reilffordd y pentref ac yn seiclo tuag at Lanfechell.

Rydym yn beicio rhyw 21 milltir ac yn ennill 800 troedfedd o uchder.

Mae caffi ar y dechrau a’r diwedd, ac rydym yn oedi am ginio mewn Caffi cymunedol hyfryd yn Llanfechell.

Archebwch Ar Lein Rŵan