Cyhoeddi ein bodolaeth!

A briefing before embarking on a guided bike tour by Green Lane Bike Tours

Cwmni newydd yn dod â Theithiau Beic dan Arweiniad i Ynys Môn

Er i ni ysgrifennu datganiad ar gyfer ein lawniad yn gynnar yn 2020 yn y flwyddyn 2020, cafodd ei hailysgrifennu sawl wgait cyn gweld golau dydd!
A ninnau wedi medru ei rannu efo’r cyfryngau erbyn hyn, dyma fo i chi ei ddarllen:

Gyda haf o fwynhau gwyliau’ gartref’ o’n blaen, mae un cwmni newydd yn barod i gymryd mantais o’r twf mewn diddordeb mewn seiclo, ac i helpu pobol leol ac ymwelwyr fwynhau Ynys Môn wrth seiclo.

Roedd Teithiau Beic Lôn Las (Green Lane Bike Tours) ar fin lansio pan ddigwyddodd y pandemig y llynedd. Erbyn hyn maent yn fwy brwdfrydig byth dros seiclo, ac yn cynnig teithiau dan arweiniad a hunandywys ar Ynys Môn, mewn cais i sicrhau bod cynifer o bobl â phosib yn cael y cyfle i fwynhau seiclo.

Maent yn addo ‘diwrnod i’r brenin ar gefn beic’ ac yn esbonio mai’r hyn y maent yn ei wneud yw arwain pobl ar hyd llwybrau sydd wedi eu dethol am eu bod yn dawel a hawdd i’w seiclo.

Trwy ddewis un o’r teithiau bydd pobol yn ymweld â llefydd diddorol a mwy anarferol, gan hefyd osgoi’r cyrchfannau prysuraf.

“Mae pob taith hefyd yn ymweld â sawl cyrchfan diddorol ar hyd y daith, yn ogystal â digonedd o gyfleoedd i gymryd saib a mwynhau’r golygfeydd ac arsylwi ar y bywyd gwyllt o’n cwmpas,” meddai Eli Elis-Williams, cyfarwyddwr ac arweinydd y teithiau.

“Rydym yn rhannu straeon am hanes lleol a’r lleoliadau hynny yr ydym yn ymweld â nhw, ac yn hoff o adnabod blodau gwyllt ac adar wrth ddilyn ein taith, yn ogystal â mwynhau’r golygfeydd draw at Eryri ac wrth gwrs arfordir digymar yr Ynys.”

Gyda mwy o bobl eisio mwynhau gweithgareddau hamdden awyr agored a dilyn ffordd fwy iach o fyw, mae Teithiau Beic Lôn Las yn galluogi pobl i ymweld â rhai o’r goreuon  o blith yr hyn sydd gan Ynys Môn i’w gynnig, heb gyfrannu gormod tuag at eu hôl troed carbon.

“Rydym hefyd eisio dangos fod seiclo yn ddewis ymarferol ar gyfer hamddena ac ar gyfer mynd o le i le,” meddai Eli.

Gall cwsmeriaid dod â’u beic eu hunain neu logi beic neu feic trydan, a fydd yn cael ei ddanfon i man cychwyn y daith ar eu cyfer.

A hithau’n siaradwraig Cymraeg a chyda gradd mewn Hanes Cymru, mae Eli Elis-Williams yn sicr y bydd pobl yn mwynhau clywed hanesion o orffennol cyfoethog yr Ynys.

“Rydym eisoes wedi derbyn sylwadau o gwsmeriaid sydd yn awyddus i ddysgu mwy am hanes ynys Môn,” meddai.

Mae’r Teithiau Beic dan Arweiniad wedi eu dyfeisio er mwyn bod yn bosib eu cyflawni, gyda digon o ysbeidiau, a chyfle i fwynhau teisen a phaned ar hyd y daith!

Mae’r busnes yn gweddu bri gogledd Cymru fel prif gyrchfan ar gyfer twristiaeth antur. Beth am ymgymryd yn yr hwyl? Gall ddiwrnod o archwilio mannau newydd ar gefn beic fod yn antur ynddo’i hun!