Ynys Môn Hynafol

Bodowyr burial chamber, on Anglesey, home of the Druids, seen on our Prehistoric Anglesey Bike Tour.

🚴‍♀️ 14 milltir / 22 cilomedr
🌄 Tua 850′ / 261 medr
🥪 Dewch â phecyn bwyd

Mae Ynys Môn yn enwog ledled y byd am fod yn gartref a phencadlys i’r Derwyddon.

Mae ein llwybr beic cylchol yn mynd ar hyd glannau’r Fenai, cyn troi tua’r tir i deithio trwy’r Oes Neolithig i’r Oes Brythoneg-Rufeinig, Haearn ac Efydd.

Er bod cellïoedd sanctaidd y Derwyddon wedi hen ddiflannu, cawn gipolwg ar ddiwylliant a bywyd beunyddiol y bobol a fu’n byw yma drwy’r olion rhyfeddol y maent wedi gadael ar eu holau. Mae’r olion ar ffurf meini hirion, cromlechi, siambrau claddu ac olion eu hanheddau tai neu ‘Cytiau Gwyddelod’ fel y’u gelwir ar lafar, a’r  trefedigaethau caerog.

Tirwedd arwyddocaol o bwys

Ddim rhyfedd felly bod Ynys Môn yn brolio mwy o henebion y filltir sgwâr nag unrhyw ran arall o Brydain.

Rydym yn dilyn peth o ddyffryn yr Afon Braint, afon hiraf Ynys Môn. Roedd y dirwedd yma’n un o bwys i’r Celtiaid cynnar, a’r olygfa yma, tuag at fynyddoedd a dyffrynnoedd Eryri yn arwyddocaol iddynt.

Ar y Daith Beic Dan Arweiniad hon, rydym yn ymweld â phum safle archeolegol ar feic. Mae’r rhain yn cynnwys Bryn Celli Ddu, safle cynhanesiol pwysicaf a mwyaf eiconig Ynys Môn, Castell Bryn Gwyn, sy’n dyddio o’r oes Brythonig-Rufeinig, a’r meini hirion eiconig sydd gerllaw, Caer Leb a Siambr Gladdu Bodowyr a Chastell Bryn Gwyn.

Dewch a’ch ysbryd anturio! Mae’r Daith hon yn 14 milltir, gyda pheth cerdded i ymweld â rhai o’r safleoedd ar hyd llwybrau cyhoeddus trwy gaeau (o leiaf milltir) a all gynnwys da byw. Mae hefyd rhyw hanner milltir o drac heb arwynebedd, felly efallai na fydd teiars beic lôn yn addas.

Archebwch Ar Lein Rŵan