Pedlo i Benmon

cyclists woth Green Lane Bike Tours, Penmon point lighthouse, Anglesey

🚴‍♀️ 11.5 milltir / 23 cilmoedr
🌄 Tua 900′ / 274m

Efallai eich bod yn ymweld â thref hanesyddol a deniadol Biwmares a Chastell Edward 1af? Beth am ymuno â thaith beic dan arweiniad efo ni i gael clywed mwy am yr ardal hanesyddol o amgylch Biwmares, cyn, yn ystod ac wedi adeiladu’r castell?

Ar y daith yma, rydym yn dilyn taith gylchog gan gychwyn y tu cefn i Fiwmares am olygfa anghyffredin o gastell Edward I, cyn datgelu rhai o gyfrinachau cornel diddorol a hanesyddol de-ddwyrain yr Ynys. Rydym yn cyrraedd Penmon a Thrwyn Du ar begwn dwyreiniol yr Ynys, gyda’u golygfeydd ar draws y swnt tuag Ynys Seiriol a Phen y Gogarth.

Ynys Môn y Canoloesoedd

Yn ogystal â seiclo drwy’r hyn oedd unwaith yn brif ganolbwynt masnachol Ynys Môn yn y canol oesoedd, rydym yn rhannu hanes priordy a adeiladwyd gan Llewelyn Fawr,ac a oedd yn ffasiynol gyda buddugions yr Oesoedd canol. Yna rydym yn seiclo oar hyd yr arfordir cyn ymweld â Phriordy Penmon, a disgyn i lawr at Drwyn Du a’r goleudy a Chaffi’r Pilot House am luniaeth ysgafn!

Ar y daith yn ôl rydym yn newid y gweithgaredd gydag ychydig gerdded drwy goedlan gymunedol i ymweld â ffug-gastell ar safle’r castell Normanaidd gyntaf ar yr Ynys!

Mae hon yn daith eithaf byr o 11.5 milltir – gydag ychydig o fryniau bychain. Mae hyn oherwydd bod cymaint o lefydd diddorol i’w harchwilio ar hyd y daith! 

Archebwch Ar Lein Rŵan