Teithiau Beic Hunandywys

group cycling

​Hoffech chi dreulio diwrnod yn seiclo o amgylch Ynys Môn? Efallai eich bod yn ansicr o ble yn union i fynd?

Rydym wedi datblygu chwe thaith hunandywys ar Ynys Môn. Maent o hyd a graddfeydd gwahanol o her, (hynny yw, hamddenol i hawdd iawn!) i’ch cynorthwyo i dreulio diwrnod braf ar Ynys Môn.

Mae pob un o’r teithiau yn eich tywys i fannau o ddiddordeb ac yn adrodd rhywfaint o hanes y lleoedd hynny yr ydych yn ymweld â hwy, fel eich bod chi a’ch ffrindiau yn cael mwynhau antur fach ar gefn beic!

Beth sydd yn eich pecyn Taith Beic Hunandywys?

I’ch arwain ar hyd eich taith, mae eich pecyn yn cynnwys ffeil .gpx y gallwch eil lawr lwytho i ap fel Garmin, Strava neu un o nifer o apiau sydd ar gael o’ch storfa apiau. Rydych hefyd y derbyn canllaw i lwybr y daith, gyda llun o bob cyffordd y ogystal â nodiadau a straeon am lefydd ar hyd y daith.

(Rydym yn dal i ymchwilio i ganfod meddalwedd addas i gyfuno’r lefel o wybodaeth a lluniau ar y manylder yr hoffem eu cyflwyno.)

Chwe thaith gylchog ar Ynys Môn i ddewis ohonynt

Taith fer gyda llawer o fforio

Yn mynd heibio i gefn Biwmares, mae ond ychydig fryniau i’r daith 11 milltir hon. Tydi ddim yn daith hir, ond mae hyn oherwydd y byddwch yn stopio mewn sawl man diddorol, a all lenwi eich diwrnod cyfan! Byddwch yn ymweld â Phriordy Penmon a’r Tŷ Colomenod, Trwyn Du gyda’i goleudy eiconig a chanfod hen ‘ffug’ gastell neu ‘ffoli’ wrth ddychwelyd i Fiwmares. (Ysgrifennwyd ar gyfer teulu/plant- addas ar gyfer oedolion hefyd!)

Taith at ‘Eglwys Fach y Môr’

Mae hon yn daith gylchog hirach o 20 milltir, sydd yn codi mymryn dros 600 troedfedd.

Eglwys Sain Cwyfan, neu ‘Eglwys Fach y Môr’ fel y’i gelwir ar lafar yw uchafbwyt y daith hon. Os ydych eisio cyrraedd yr Eglwys mae’n syniad edrych ar dabl llanw er mwyn cyrraedd ar lanw isel. Mae’r llwybr yn troi i mewn i’r canoldir, am daith wahanol ar hyd lonydd distaw yn ôl i’r man cychwyn. Mae rhan o’r daith ar hyd Lôn Las Cefni.

Taith hir drwy hanes Ynys Môn

Yn 20 milltir ac yn codi 800 troedfedd, mae’r daith hon yn cynnig seicl hir ar hyd lonydd cefn gwlad hyfryd, gydag ychydig elltydd a golygfeydd gwych, mae hon yn daith fwy heriol o ran elltydd.

Byddwch yn ymweld ag eglwysi bach cefn gwlad, safleoedd cynhanesiol, a llefydd nodweddiadol eraill, byddwch yn cael gwir naws cefn gwlad Ynys Môn, ac o fod  mewn mannau hollol anghysbell wrth i chi seiclo ar hyd lonydd lle mae’r glaswellt y tyfu ar hyd ganol y lôn!

Ymweld ag Ynys Môn hynafol

Taith 14 milltir sy’n darparu cyfuniad da o seiclo a cherdded (o leiaf milltir) wrth ymweld â phum safle hynafol ar hyd dyffryn Afon Braint, gan gynnwys Siambr gladdu eiconig Bryn Celli Ddu.

Byddwch yn cychwyn drwy seiclo ar hyd yr Afon Menai, ar hyd lonydd distaw gyda golygfeydd gwych tua’r mynyddoedd, ac (os ydych chi’n dewis seiclo) ar hyd darn hen wyneb.

Seiclo ar draws Ynys Cybi hynafol

Hon yw’r daith fwyaf heriol o’n teithiau hawdd. Mae’r llwybr 13.5 milltir yn codi dros 1,150 o droedfeddi i’ch arwain drwy fryniau a chynhanes yr Ynys.

Mae’r hanner gyntaf yn eithaf heriol o lefel y môr tuag at y clogwyni uwchben Ynys Lawd. Wedi hyn mae’r daith yn lawer haws, er mae mwy o draffig ar y daith yma na’n teithiau eraill.

Dylech hefyd ystyried bod llai o gysgod rhag y gwynt ar y daith yma ac ystyried y rhagolygon tywydd o flaen llaw.

Llanddwyn – Ynys Cariadon

Dyma gyfle i brofi cyrraedd Llanddwyn mewn modd hollol wahanol ar daith hir a hawdd gyda’r rhan fwyaf oddi ar y lôn

Man cychwyn y daith hon yw tref Llangefni (Er tasech efo plant ifanc, rydym yn nodi bod modd ei gwtogi mewn sawl man).

Mae’r rhan fwyaf o’r llwybr ar Lôn Las Cefni a thraciau drwy goedwig Niwbwrch, heblaw am damaid ar y lôn. Mae’r 20 milltir yn hawdd a gwastad (sy’n codi 200 dros y llwybr i gyd). Dyma gyfle i chi fwyhau’r lan y môr a fforio Ynys Llanddwyn (ond i chi gadw llygad ar y llanw!)

Nid yw’r daith yn addas ar gyfer teiars beic lôn.

Cysylltwch â ni am ragor o fanylion ac i dderbyn un o’n pecynnau Taith Beic Hunandywys!

Os ydych angen llogi beic na cysylltwch â rhai o’r cwmniau ar waelod y dudalen yma.

Fe werthon ni un daith i deulu a gysylltodd â ni i ofyn ble gallan nhw feicio.

Dyma ddywedon nhw:

“Roedd y reid yn ddelfrydol ar gyfer ein dau deulu gyda phlant (8-15 oed).

Roedd yn iawn o ran hyd a’r her. Roedd digon i’w weld hefyd gyda nifer dda o fannau aros. Fe wnaethon ni feddwl am ddefnyddio ein mapiau arolwg ordnans i weithio allan llwybr ond pan nad ydych chi’n adnabod y dirwedd mae risg o ddewis llwybrau diflas gyda gwrychoedd uchel a dim i’w wneud ar hyd y ffordd.

Roedd yn wych tynnu ar wybodaeth rhywun arall. Pris gwych am ddiwrnod allan gwych!”

Dyma ymateb gan cwsmer diweddar:

Fe wnaethon ni’r daith feicio ac roedd yn ardderchog – diolch cymaint am daith wych… Cawsom ddiwrnod allan gwych a dywedodd fy ngŵr mai hon oedd y daith feic orau erioed iddo fod. Rwy’n credu ein bod ni wedi’n syfrdanu gan lwybr y daith – roedd y ffordd yr oedd y trac bach hwnnw ar y diwedd yn troi allan wrth y maes parcio wedi ein gadael ni’n gegrwth!”