Teithio tua’r môr, Eglwys Fach y Môr a The Cymreig

Lane Cwyfan
The lane leading to Porth Cwyfan, Anglesey, and St Cwyfan Church, marooned on an island at high tide.

🚴‍♀️ 26 milltir / 42 cilomedr
🌄 Tua 685′ / 208 medr
🥪Dewch â phecyn bwyd ysgafn, mae Te Cymreig mewn caffi wedi ei gynnwys

Taith wirioneddol drawiadol ar draws tir a oedd unwaith yn fôr, gyda chyfle prin i ymweld y tu mewn i sawl eglwys hanesyddol, gan gynnwys un sydd wedi ei hynysu yn y môr, na ellir ymweld â hi ond ar lanw isel.

Ar y daith gylchol hon, rydym yn croesi gwlypdir wedi’i hennill o’r môr, sy’n llawn bywyd gwyllt, yn dilyn trac hen ffordd trwy dwyni tywod ac yn croesi pont bynfeirch.

Rydym yn ymweld â Llangadwaladr i weld coffâd i Frenin Gwynedd o’r 7fed ganrif, yn reidio ymlaen i Aberffraw, safle llys hynafol Tywysogion Gwynedd, lle mae Eglwys Sain Beuno wedi sefyll ers y 7fed ganrif. Rydym yn seiclo wedyn tua’r traeth i fwynhau taith gerdded fer ar draws traeth caregog i Eglwys Sain Cwyfan o’r 12fed ganrif, lle i oedi, cymryd anadl a mwynhau’r awyrgylch.

Ar y ffordd yn ôl, rydym yn  dilyn llwybr mewndirol gwledig hyfryd, ac yn galw mewn caffi poblogaidd am De Cymreig, wrth i ni droi am Langefni. Mae’r daith arfordirol hon yn dewis ffyrdd tawel a ffyrdd beicio sy’n darparu cyfoeth o dir a morluniau ac yn ffordd wych o brofi’r cyfuniad arbennig iawn o hanes hynafol a diwylliant modern Cymru yn Ynys Môn.

Dyma daith arbennig ar gyfer Experience Churches.

Dyddiadau arfaethedig ar gyfer 2023 i’w gytuno gan yr Eglwysi.

Archebwch Ar Lein Rŵan