Ynys Cybi Hynafol

Trefignath prehistoric burial chamber, visited on Prehistric Ynys Cybi Bike Tour, Anglesey

🚴‍♀️ 14.5 milltir 18.5 cilomedr
🌄 Tua 900′ 274m
🥪 Caffi

Mae’r gylchdaith seiclo o Fae Trearddur yn mynd â ni o amgylch Ynys Cybi i ymweld â rhai o safleoedd cynhanesyddol yr ynys. Rydyn ni’n ymweld â chytiau Gwyddelod, meini hirion a thriawd syfrdanol o siambrau claddu, mae yna ddigon i’ch rhyfeddu ar y reid hon!

Rydym yn dechrau trwy ymweld â meini hirion Penrhos Feilw. Mae’r ddau faen yn ymddangos fel pe baent yn fframio Mynydd y Twr neu Fynydd Caergybi. Beth oedd eu pwrpas?

Gan ddilyn yr arfordir, ar ôl beicio i fyny cymal mwyaf heriol y dydd, rydym yn cyrraedd cytiau crwn Tŷ Mawr.

Mae cyfle i barcio’r beiciau a chrwydro trwy weddillion rhyw 20 cwt crwn sy’n weddill o’r 50 sydd wedi’u cofnodi. Mae’r rhain yn dyddio o ddiwedd y cyfnod Neolithig, trwy’r Oes Haearn, gyda rhai o’r adeiladau’n cael eu defnyddio mor hwyr â’r chweched ganrif. Yn ychwanegol, mae darganfyddiadau Mesolithig yn yr ardal yn dangos bod pobl wedi byw ar y safle ers miloedd lawer o flynyddoedd.

Edrychwch allan i lwybrau’r môr Celtaidd ac ystyriwch fywyd yma dros y milenia.

Rŵan bod ein dringfa drosodd am y diwrnod, mae gweddill y seiclo yn llawer haws. Byddwn yn croesi i arfordir gogleddol Ynys Cybi, gan edrych dros y morglawdd hir, a adeiladwyd i gysgodi’r nifer cynyddol o longau a oedd yn galw yn harbwr Caergybi.

Seiclo drwy dirlun cyhanesyddol

Dyma ein man ciniawa yn un o nifer o gaffis. Yna mae ein llwybr yn mynd o amgylch tref Caergybi i ymweld â chwpl o safleoedd cynhanesyddol gweladwy ar gyrion y dref. Maen hir sy’n troelli a thriawd enigmatig o feddrodau yn Trefignath yw’r unig gliwiau gweladwy i dirwedd gynhanesyddol ehangach a ddatgelwyd mewn cloddfa archeolegol helaeth yn ddiweddar.

Mae’r llwybr yn cynnig morluniau a golygfeydd anhygoel ar draws Ynys Môn tuag at Eryri!

Taith Feicio dan Arweiniad oddeutu 14.5 milltir yw hon, gyda pheth cerdded i ymweld â rhai o’r safleoedd ar y ffordd, ac rydym yn esgyn tua 900 troedfedd.

Archebwch Ar Lein Rŵan