Ynys Llanddwyn – Ynys y Cariadon

A view of Ynys Llanddwyn, Anglesey seen on a Green Lane Bike Tours Guided Bike Tour

🚴‍♀️ 22 milltir / 35 cilomedr
🌄 Tua 200’/ 60 m
🥪 Dewch â phecyn bwyd, caffi ar y ffordd yn ôl

Dyma daith hamddenol, hyfryd i Ynys Llanddwyn, yn ddi-os, un o draethau gorau Ynys Môn! I’r fargen, byddwn yn eich tywys i ardal fwyaf distaw’r traeth y byddai llawer yn dweud yw’r traeth orau ar yr Ynys, sef traeth Niwbwrch ac Ynys Llanddwyn. Rydym hefyd o’r farn mai dyma yw’r ffordd hawsaf i gyrraedd yr Ynys odidog hon! Mae’r llwybr yn hollol fflat ac mae’r rhan fwyaf ohoni’n hollol ddi-drafnidiaeth! Ar gychwyn y daith, rydym yn seiclo llwybr Lôn Las Cefni, drwy un o wlypdiroedd isel mwyaf Cymru; lloches a chartref i nifer o famaliaid, adar a phlanhigion prin.

Byddwn yn oedi i werthfawrogi’r golygfeydd tuag Eryri ac i esbonio sut y crëwyd y warchodfa natur werthfawr. Cafodd y tir ei hadennill o’r môr wrth adeiladu Cob Malltraeth ar draws yr hen forfa heli. Roedd y morfa heli mor fawr bu bron iddi hollti’r ynys, a chyfeiriwyd at yr ardaloedd uwchben ac islaw’r gors fel Ynys Mn mwyaf a lleiaf.  Unwaith roedd wedi ei gwblhau, roedd teithio yn yr ardal yma o Fôn llawer yn haws!

Ar ôl seiclo ar lôn ddistaw am gwpl o filltiroedd, rydym oddi ar y lôn eto wrth i ni seiclo ar draws Cob Malltraeth. Wedi croesi’r Cob, rydym yn dilyn traciau drwy goedwig Niwbwrch lle, os yn lwcus, cawn weld gwiwer goch neu glywed crawcian y cigfrain wrth i ni seiclo tua’r traeth.

Crwydro Ynys Llanddwyn


Dewch â phicnic ac fe wnawn gloi’r beiciau i gerdded ar draws y traeth tuag at Ynys Llanddwyn (ni chaniateir beiciau ar yr ynys). Bydd cyfle i chi fforio’r ynys eich hun, neu fynd am nofiad bach, crwydro adfeilion Eglwys Dwynwen, neu  weld yr hen dai peilotiaid, y croesau Celtaidd a’r goleudai bach a mawr.

Bydd y bwyd cartref yn y caffi ar y ffordd adref yn wobr i’ch 22 milltir er na fydd brenin y mynydd ar y daith hon!

Rydym o’r farn mai hon yw taith beic oddi ar y lôn orau sydd gan Ynys Môn i’w chynnig!

(Os ydych chi’n dod â’ch beic eich hunain – sylwer nad yw’n addas ar gyfer teiars lôn.)

(Yn unol â chais am drwydded ar gyfer 2023 gan Adnoddau Naturiol Cymru i gynnal y daith hon.)

Archebwch Ar Lein Rŵan