Companies work together to offer seamless services to cyclists

Two cycle companies on Anglesey are bringing their unique offers together to have everything sewn up for anyone wanting to cycle on Anglesey this season.

From bike hire, to leisurely guided tours to some magical island destinations, to a taste of the ‘pro-rider’ experience on a 100 kilometre supported ride; whether you ride every day, or haven’t ridden since school days, Cyclewales and Green Lane Bike Tours say they have something for the cyclist in you.

Cyclewales have an extended fleet of bikes for hire at their Llangefni base, and can deliver to  the customer. They have an extended fleet of over 60 bikes, from mountain and road bikes to E Bikes, tandems, children’s bikes and tag-alongs and trailers for the youngest. So for cyclists who know where they want to go, it’s just a step to the nearby Lon Las Cefni cycle route or to follow a route around Anglesey.

For those less sure of where they want to cycle, or who want someone else to do the route-planning and navigating, then Green Lane Bike Tours’ guided and self-guided tours are the solution. These tours visit some of Anglesey’s most special and secluded places, and share some insights into Anglesey’s history along the way.

Green Lane Bike Tours have been taking people on their unique guided bike tours, blending leisurely cycling with sight-seeing, since 2019.

Owner Eli Elis-Williams explained more, saying:

“Our rides are ideally suited to anyone who wants to spend a not too energetic day out on a bike. We share some stories from the island’s history and heritage with our guests, and keep an eye open for wildlife as we visit some lovely and often less well-known places. We just like to think of it as a great day out, just that we travel by bicycle, with plenty of stops (and cake!) along the way!”

Supported rides

People can join Green Lane Bike Tours with their own bike, or hire a bike and have it delivered to the start of the route.

Cyclewales’ owner Dewi Jones is a well-known figure on the island’s cycling scene. This year, he and his team are offering three longer supported cycle routes of over 100k around Anglesey and Eryri, including the Anglesey Audax route, a round- Yr Wyddfa (Snowdon) route and a route to Aberdaron on the Llŷn Peninsula. 

The supported rides enable individuals and groups to undertake a longer more strenuous ride, while also getting a taste for the ‘professional support team’ feel. The team will be alongside and ready should there be any mechanical failure or unanticipated event along the route!

Dewi Jones said: “This is a new experience to offer riders of all levels. Knowing that there is a backup with you along the route ensures you’ll never get lost, and there’s no need to think ‘where will I go if I have a mechanical problem’. You’ll have the Bike Shop along with you!”

These cycle routes dove-tail into Green Lane Bike Tours’ offering, meaning that people can enjoy a full range of supported cycling on Anglesey, from easy self-guided tours, to the longer supported rides- so there should be something for everyone when it comes to cycling!

Michael P. Thomas, Senior Development Officer Tourism & Marketing, Isle of Anglesey County Council commented:

“It’s great to see two companies with a track record in the local cycling industry, working together to improve and extend the island’s offer for local leisure cyclists and holiday visitors to the region.”

Cwmnïau’n cydweithio i ymestyn gwasanaethau ar gyfer seiclwyr

Mae dau gwmni seiclo ar Ynys Môn yn dod â’u gwasanaethau unigryw ynghyd i ymestyn yr amrediad o wasanaethau i bawb sy’n ymweld ag Ynys Môn i seiclo’r tymor hwn.

O logi beic, i deithiau dan arweiniad hamddenol i rai o gyrchfannau hudol yr Ynys, i gynnig blas ar brofiad seiclwyr proffesiynol wrth gael eich cefnogi ar daith 100 cilomedr; dim ots os ydych yn seiclo bob ddydd neu heb seiclo ers dyddiau ysgol, mae gan Cyclewales a Theithiau Beic Lôn Lâs (Green Lane Bike Tours) yn dweud bod ganddynt rywbeth ar eich cyfer.

Mae Cyclewales wedi ymestyn ei fflyd o feics llog yn eu safle yn Llangefni, ac mae modd iddynt ei gludo atoch. Mae ganddynt dros 60 o feics, o feics mynydd a lôn at feics trydan, tandemau, beics plant, ‘tag-along’ a trailers i’r plant ieuengaf. Felly ar gyfer seiclwyr sy’n gwybod lle maen nhw eisio mynd, mae ond yn gam fechan at Lôn Las Cefni, neu i ddilyn eu llwybr o amgylch Ynys Môn.

Yr ateb i’r rhai sydd yn llai sicr o ble i fynd, neu sydd am i rywun arall cymryd yr awenau, yna taith dan arweiniad neu hunan dywys Teithiau Beic Lôn Las yw’r ateb. Mae’r teithiau’n eich arwain i rai o drysorau diarffordd, a gewch glywed rhai o hanesion yr ynys ar hyd y daith.

Mae Teithiau Beic Lôn Las wedi bod yn arwain pobol ar eu teithiau unigryw, sydd yn cyfuno seiclo hamddenol efo ymweld â lleoliadau diddorol er 2019.

Meddai’r perchennog, Eli Elis-Williams:

“Mae ein teithiau’n ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sydd eisio treulio diwrnod ar gefn beic, heb fod yn rhy egnïol. Rydym yn rhannu ychydig straeon o hanes a threftadaeth yr Ynys gyda’n gwesteion, tra hefyd yn cadw’n llygaid yn agored am fywyd gwyllt wrth i ni seiclo at leoliadau adnabyddus a rhai llai poblogaidd. Rydym yn ei ystyried fel diwrnod allan braf, ond ar gefn beic, gyda digon o esgusodion i oedi (weithiau am deisen) ar hyd y ffordd!”

Gall bobol ymuno â Theithiau Beic Lôn Las gyda’u beic ei hunain neu logi beic a fydd yna’n cael ei  gludo at fan cychwyn y daith.

Mae Dewi Jones, perchennog Cyclewales yn ffigwr adnabyddus ymysg seiclwyr Ynys Môn. Eleni mae o a’i dîm yn cynnig tair taith hir o dros 100c gyda chefnogaeth, o amgylch Môn ac Eryri, gan gynnwys llwybr Audax Môn, taith o amgylch Yr Wyddfa a thaith i Aberdaron, ar benrhyn Llŷn. 

Mae’r teithiau gyda chefnogaeth yn galluogi unigolion a grwpiau i ymgymryd â reidiau hirach, mwy heriol, wrth gael blas ar seiclo efo ‘tîm cefnogi proffesiynol’ wrth gefn.  Bydd y tîm wrth law pe bae methiant mecanyddol neu unrhyw ddigwyddiad annisgwyl ar hyd llwybr y daith!

Dywedodd Dewi Jones: “Dyma brofiad newydd i gynnig i seiclwyr ar bob lefel. Mae gwybod bod tîm proffesiynol efo chi ar hyd y daith yn cael gwared â phryderon am fynd ar goll, neu sut i ddatrys problem fecanyddol. Bydd y siop beics yn eich dilyn!”

Mae’r teithiau hyn yn cyd-blethu efo cynnig Teithiau Beic Lôn Las, gan olygu bod amrediad lawn o reidiau wedi’i gefnogi ar Ynys Môn, o deithiau hunan-dywys hawdd, at reids hirach gyda chefnogaeth lawn. Rhywbeth at ddant pawb a ddaw i’r Ynys i seiclo!

Meddai Michael P. Thomas,  Swyddog Datblygu Twristiaeth a Marchnata Uwch, Cyngor Sir Ynys Môn: “Mae’n braf gweld dau gwmni sydd â record ym maes diwydiant seiclo lleol, yn cydweithio i wella ac ymestyn cynnig yr ynys ar gyfer hamdden leol ac ar gyfer ymwelwyr gwyliau i’r ardal.”