🚴♀️ 14 milltir / 22.5 cm
🌄 600′ / 183 m
🥪 Caffi Cymunedol
Gan ddechrau yng Nghemaes, pentref pysgota tlws a chymuned fwyaf gogleddol Cymru, ar y daith feic dan arweiniad hon, rydym yn seiclo o fewn tafliad carreg i’r arfordir, cyn troi mewn i’r tir ar hyd lonydd tawel, gyda golygfeydd ysblennydd, lle rydym yn debycach o ddod ar draws cerddwyr na cheir!
Ar hyd y daith, byddwn yn ymweld â morlyn a gwarchodfa natur Cemlyn, cartref miloedd o fôr-wenoliaid sydd o dan fygythiad, adar môr cain sy’n nythu ar ynysoedd y morlyn dros fisoedd yr haf.
Cyn dyfodiad y rhwydwaith ffyrdd modern, y moroedd oedd ein priffyrdd ar gyfer teithio a chadw cyswllt, felly nid yw’n syndod bod gan Ynys Môn hanes hir o forwriaeth!
Byddwn yn rhannu straeon o hanes morwrol Ynys Môn, gan gynnwys hanesion y rhai a elwodd yn gyfreithlon ac yn anghyfreithlon o fywyd morwrol ac am yr arloeswyr cynnar hynny a roddodd eu bywydau eu hunain mewn perygl i ddiogelu morwyr a ddaliwyd mewn storm. Fe glywch yn uniongyrchol gan sgweier a dyddiadurwr o’r ddeunawfed ganrif, ymhlith eraill, pa mor hanfodol oedd cargoau a gludir gan y môr ym mywyd beunyddiol Ynys Môn wledig.
Byddwn yn torri’r daith gyda chinio neu ddewis o gacennau godidog (neu’r ddau!) yn y caffi cymunedol hyfryd yn Llanfechell.
(Dyddiadau Sad Mai 14, Iau Mehefin 16, Iau Gorffennaf 14, Iau Awst 18, Sad Medi 3 & 17 Sad Hydred 1. Nes ein bod wedi cwblhau’r dudalen, cysylltwch efo i bwcio eich lle!)